Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Gorffennaf 2021
Amser:
10.00 -
12.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12392
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Jayne Bryant AS Peter Fox AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Jayne Anstee, Llywodraeth Cymru Howard Davies, Llywodraeth Cymru Bernadette Payne, Llywodraeth Cymru Jo Stevens, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Nia Moss (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Cylch gorchwyl y Pwyllgor
Nododd yr Aelodau gylch gorchwyl a chyfrifoldebau'r Pwyllgor.
3 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd: Sesiwn dystiolaeth
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd. Cytunodd y Gweinidog i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor, a fyddai'n cael ei chadarnhau mewn gohebiaeth.
4 Offerynnau negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B.
4.1 pNeg(6)001 - Rheoliadau Bwyd a Diod (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol fod yn gymwys.
5 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
5.1 SL(6)016 – Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ar yr adroddiad drafft.
5.2 SL(6)017 – Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ar yr adroddiad drafft.
6 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
6.1 SL(6)019 – Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
6.2 SL(6)020 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
6.3 SL(6)018 – Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
7 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
7.1 SL(6)009 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021
Nododd y Pwyllgor yr ymateb arall gan Lywodraeth Cymru.
7.2 SL(6)013 - Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
8 Adroddiad Rheol Sefydlog 30B: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin
Nododd y Pwyllgor ddatganiad Llywodraeth Cymru ac adroddiad Llywodraeth y DU.
9 Papurau i'w nodi
9.1 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
9.2 Llythyr gan Bennaeth Swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd: Ymchwiliad posibl
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd ac, yn breifat, cytunodd i drafod cynigion ar gyfer gwaith yn y dyfodol fel rhan o'i waith cynllunio strategol yn nhymor yr hydref.
9.3 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ymestyn Cyfnodau Pontio) 2021
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
9.4 Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru: Gwaith Archwilio Cymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
10 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd.
Derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i gyfarfod yn breifat yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Medi 2021 (union ddyddiad i’w gadarnhau) i drafod ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd, ar yr amod bod y Cadeirydd yn ymgynghori â'r Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 17.46 (ac ar yr amod bod yr Aelodau ar gael).
12 Gweithdrefnau pwyllgorau a’u ffyrdd o weithio
Nododd y Pwyllgor y Rheolau Sefydlog sy'n gymwys i bwyllgorau, a rolau a chyfrifoldebau’r Aelodau a swyddogion. Hefyd, trafododd y Pwyllgor y ffordd orau o weithio a'i ddull o weithio ddechrau tymor yr hydref. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd i gynllunio gwaith strategol ddechrau tymor yr hydref.
Os bydd unrhyw nam technegol yn effeithio ar y Cadeirydd, o dan Reol Sefydlog 17.22, cytunodd y Pwyllgor i ethol Jayne Bryant AS yn gadeirydd dros dro ar gyfer holl gyfarfodydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y dyfodol, pe bai'r angen yn codi.